Y Synod a’r Iaith Gymraeg
Mae Synod Genedlaethol Cymru yn un o dri ar ddeg o Synodau sy’n ffurfio’r Eglwys Ddiwygiedig Unedig o fewn tair cenedl Cymru, Lloegr a’r Alban.
Yng Nghymru, mae’r Synod yn cynnwys 79 o eglwysi lleol ar draws y wlad, tua hanner ohonynt mewn partneriaethau eciwmenaidd.
Mae cenhadaeth a gweinidogaeth y rhan fwyaf o’r eglwysi hyn yn cael eu cynnal drwy’r iaith Saesneg, er bod nifer lle mae’r Gymraeg yn cael ei defnyddio fel cyfrwng. Cynhelir gwasanaethau naill ai yn bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg, neu’n ddwyieithog, yn rheolaidd yng Ngofaleth Bannau Brycheiniog, yn enwedig yn y Plough yn Aberhonddu (URC & UAC), yn URC y Fenni ac yn Sardis, Cwmcamlais (UAC).
Fel Synod rydym hefyd yn gweithio ochr yn ochr ag enwadau eraill lle mae’r Gymraeg yn iaith gyntaf neu sydd yn gwbl ddwyieithog.
Yn 2017 mabwysiadodd y Synod Polisi Iaith Gymraeg y gellir ei lawrlwytho isod.
Yn y polisi hwn, rydym yn cydnabod fod gan yr iaith Gymraeg statws swyddogol o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, ac na ddylid ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg.
- Rydym yn credu ei bod yn arfer da i gynnig gwasanaethau yn newis iaith ein haelodau a’r sawl yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym hefyd yn credu ei fod yn dangos parch tuag at ein gweithlu i annog a hwyluso eu dewis iaith yn y gweithle.
- Byddwn yn sicrhau ein bod yn gwneud cynnydd parhaol tuag at yr uchelgais hwn. Mae’r Polisi Iaith Gymraeg hwn yn datgan ein hymrwymiadau presennol wrth ddefnyddio’r Gymraeg a hefyd, lle bo’n briodol, yn gosod targedau i ddatblygu ein defnydd o’r Gymraeg.
- Dylid dehongli hyd a lled ein hymrwymiadau yn y polisi hwn mewn ffordd resymol – maent yn gyfyngedig i weithgareddau a gwasanaethau yng Nghymru neu sydd wedi eu darparu i bobl sy’n byw yng Nghymru, a hefyd maent yn gyfyngedig i weithgareddau a gwasanaethau yr ydym yn medru eu rheoli neu ddylanwadu arnynt.